Geiriaduron Cymraeg ar lein

English

Geiriadur Prifysgol Cymruwww.geiriadur.ac.uk
Prif eiriadur hanesyddol safonol y Gymraeg a baratowyd rhwng 1921 a 2002 gan Brifysgol Cymru. Mae ail argraffiad ar y gweill, ac mae’r cwbl o’r ddau argraffiad ar lein yn https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html lle mae modd chwilio am eiriau neu ymadroddion Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.

Geiriadur yr Academiwww.geiriaduracademi.org/
Y prif eiriadur Saesneg-Cymraeg, wedi ei olygu gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Mae angen sgrolio i waelod y tudalen ‘Telerau defnydd’ a chlicio ar y botwm ‘Derbyn’ i gael defnyddio’r geiriadur hwn.

Geiriadur y Drindod Dewi Santgeiriadur.uwtsd.ac.uk/
Geirfa chwiliadwy gynhwysfawr Cymraeg a Saesneg a baratowyd gan Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Geiriadur Prifysgol Bangorhttp://geiriadur.bangor.ac.uk/
Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg a baratowyd gan Ganolfan Bedwyr. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr. Ceir cysylltiadau i eiriaduron eraill ac i adnoddau termau technegol. (Dyma’r geiriadur a oedd ar wefan y BBC.)

Y Gweiadurwww.gweiadur.com/cy/Pawb
Geiriadur a baratowyd gan D. Geraint Lewis a Nudd Lewis sydd mewn fersiwn beta ar hyn o bryd. Mae angen cofrestru i’w ddefnyddio, ond ar hyn o bryd mae hyn yn ddi-dâl.

Geiriadur Rwsieg-Cymraeg/Cymraeg-Rwsiegwww.cymraeg.ru/geiriadur/
Geiriadur Cymraeg-Rwsieg/Rwsieg-Cymraeg a baratowyd gan Dmitri Hrapof o Mosco.

Termau technegol

Y Porth Termau Cenedlaetholhttp://termau.org/
Cronfa o dermau a ddatblygwyd gan Uned Termau a Thechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. Ceir cysylltiadau i nifer o adnoddau tebyg eraill.

TermCymruwww.llyw.cymru/btc
Casgliad yw TermCymru o’r termau y bydd cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd. Caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd ac mae’n tyfu’n raddol yn gronfa helaeth o dermau safonol a chyfoes sy’n cofnodi’r termau a ddefnyddir yn y gwahanol feysydd y mae’r Llywodraeth yn ymdrin â hwy. Mae hefyd yn cynnwys enwau llawer o gynlluniau a rhaglenni Llywodraeth Cymru, ynghyd â theitlau llawer o’r dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a chan gyrff eraill. Wrth gyhoeddi’r casgliad ar y we, y gobaith yw y bydd o ddefnydd nid yn unig i gyfieithwyr, ond i unrhyw un sy’n ymdrin â therminoleg wrth weithio mewn hinsawdd ddwyieithog.

Termau y Coleg Cymraeg Cenedlaetholhttp://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/adnoddau/termau/
Cronfa o dermau Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.

Enwau lleoedd

Enwau Lleoedd Safonol Cymruhttps://www.comisiynyddygymraeg.cymru/enwau-lleoedd-safonol-cymru
Rhestr o enwau lleoedd wedi’u safoni gan Comisiynydd y Gymraeg.

Pyrth

Porth Geiriadurol Ewropeaiddwww.dictionaryportal.eu
Mae’r European Dictionary Portal, sydd ag arbenigwyr o’r European Network of e-Lexicography yn guraduron iddo, yn ganllaw da i eiriaduron ar lein mewn ieithoedd Ewropeaidd pa un a ydych yn academydd, yn gyfieithydd, yn athro iaith neu’n unigolyn sydd â diddordeb mewn ieithoedd.


Cynhelir y dudalen hon gan staff Geiriadur Prifysgol Cymru. Croesewir cywiriadau ac ychwanegiadau.

Ceir manylion cysylltu yma.

Yn ôl i’r brig