Cwcis

English

Sut rydym ni’n defnyddio Cwcis

Defnyddio Cwcis:
Ffeil destun fach a gaiff ei storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais er mwyn i’n gwefan ni gofio pwy ydych chi yw cwci. Bydd cwci fel rheol yn cynnwys enw’r parth y daeth y cwci ohono, “oes” y cwci, a gwerth, sydd fel arfer yn rhif unigryw a grëwyd ar hap. Ni ellir defnyddio cwci ar ei ben ei hun i’ch adnabod chi ac nid yw’n rhaglen gyfrifiadurol, ac ni all achosi unrhyw niwed i’ch cyfrifiadur.

Sut rydym ni’n defnyddio Cwcis:
Rydym ni’n defnyddio dau fath o gwci yn y gwasanaethau ar lein rydych chi wedi gofyn amdanynt. Nid yw’r cwcis yn casglu gwybodaeth bersonol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei hanfon at drydydd parti.
Cwci Parhaol
Mae hwn yn cadw’r dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) a wnewch pan fyddwch chi’n cysylltu â’n safle am y tro cyntaf ac ni chaiff ei ddileu pan gaeir y porwr. Mae’n aros ar eich dyfais hyd nes y daw i ben neu hyd nes y byddwch chi’n ei ddileu. Mae’n cynnwys rhif unigryw a grëwyd ar hap a dyddiad dod i ben. Nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Cwcis Un Sesiwn
Cwcis dros dro yw’r rhain a ddefnyddir yn ein gwasanaethau ar lein ac sy’n parhau ar eich cyfrifiadur neu ddyfais hyd nes y byddwch yn cau eich porwr. Mae cwcis un sesiwn yn caniatáu i ni gludo gwybodaeth ar draws tudalennau ein gwefan ac yn osgoi’r angen i ddefnyddwyr ailgyflwyno gwybodaeth.

Galluogi neu Analluogi Cwcis:
Drwy addasu gosodiadau eich porwr, gallwch ddewis derbyn cwcis, cael eich hysbysu pan fydd un ar fin cael ei osod ar eich cyfrifiadur, neu wrthod pob cwci’n awtomatig. Fodd bynnag, os ydych yn analluogi cwcis, mae’n bosibl na fydd ein gwasanaethau ar lein yn gweithio.

Yn ôl i’r brig