Polisi Preifatrwydd

English

Datganiad preifatrwydd yw hwn sy’n datgelu ein harferion o ran casglu, defnyddio a dosbarthu gwybodaeth ar gyfer gwefan Geiriadur Prifysgol Cymru (geiriadur) a ’r apiau symudol.
Ein hafan yw www.geiriadur.ac.uk.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y datganiad hwn, cysylltwch â ni:
Gwefeistr GPC, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH neu webmaster@geiriadur.ac.uk.

Casglu data

Drwy ddefnyddio gwefan a/neu apiau Geiriadur Prifysgol Cymru rydych yn cytuno y caiff gwybodaeth ei chasglu a’i defnyddio yn unol â’r polisi hwn.

Data personol

Caiff yr holl ddata personol ei gasglu a’i storio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Rydym yn casglu’r data canlynol:

  • Data ffrwd clic (y math o gyfrifiadur a meddalwedd pori rydych chi’n eu defnyddio, cyfeiriad y wefan y cysylltoch chi ohoni etc).
  • Elfennau protocol HTTP (cyfeiriad ac enw parth lefel uchaf eich gweinydd (e.e. .com, .gov etc), dyddiad ac amser yr ymweliad etc).
  • Termau chwilio.

Defnyddir y data hwn at y dibenion canlynol:

  • Cwblhau a chymorth ar gyfer y gweithgaredd cyfredol.
  • Gweinyddu’r wefan a’r system.
  • Ymchwil a datblygu.

Cesglir y data hwn gan bob defnyddiwr gwe. Defnyddir cofnodion defnydd gwe at ddibenion ystadegol yn unig (e.e. i fesur defnydd/perfformiad y safle) ar wahân i achosion o dorri diogelwch. Bryd hynny gellir eu defnyddio at ddiben tracio’r toriad. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gesglir o gofnodion gwe eu rhoi nai’i gwerthu i drydydd parti.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynwch i ni yn cael ei defnyddio at y diben datganedig yn unig. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei datgelu i drydydd parti oni bai eich bod chi’n awdurdodi hynny neu yn ôl yr hyn a ganiateir gan y Ddeddf Diogelu Data.

Cwcis

Technoleg y gellir ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth sydd wedi’i theilwra i chi o wefan yw cwcis; gallant hwyluso cyfathrebu a rhyngweithio gyda’r safle. Gallwch atal neu gyfyngu ar osod cwcis ar eich cyfrifiadur drwy addasu hoffterau eich porwr gwe, ond gallai hynny amharu ar eich defnydd o’r safle i ryw raddau.
Yn ôl dewis y defnyddiwr, byddwn ni’n casglu’r data canlynol:

  • Cwcis HTTP.

Caiff cwcis eu defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Ymchwil a datblygu.
  • Targedu defnyddwyr.

Caiff y data hyn ei defnyddio gennym ni a’n asiantau.
Caiff cwcis eu defnyddio i dracio ymwelwyr â’r safle.

E-bost a ffurflenni ar lein

Rydym ni’n casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Gwybodaeth gyswllt ffisegol.
  • Gwybodaeth gyswllt ar lein.
  • Data demograffig.
  • Data hoffterau.

Caiff y data hwn ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

  • Cwblhau a chefnogi gweithgaredd cyfredol.
  • Cysylltu ag ymwelwyr ar gyfer marchnata gwasanaethau neu gynhyrchion.

Ym mhob achos, byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon at y diben y’i darparwyd yn unig. Darperir nifer o ffurflenni ar-lein ar y safle hwn. Dylai’r tudalennau sy’n cynnwys y ffurflenni hyn gynnwys datganiad (neu linc) am sut y caiff data a gyflwynir iddynt eu brosesu.
Cesglir y data er mwyn i ni allu anfon newyddion a gwybodaeth arall atoch sy’n berthnasol i’ch anghenion a’ch diddordebau.

Optio allan

Os oes gennych chi bryderon am y data rydym ni’n eu dal amdanoch chi, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad uchod.


Cliciwch yma i ddarllen ymwadiad y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Y Ganolfan).

Yn ôl i’r brig