Ymwadiad

English

Ymwadiad Geiriadur Prifysgol Cymru

Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i’r holl wefan/gwefannau ac apiau a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Y Ganolfan), neu gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan, sy’n defnyddio amrywiadau ar enwau parth Geiriadur Prifysgol Cymru yn y lleolydd adnoddau unffurf (URL) (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i *.geiriadur.ac.uk/*, *.welsh-dictionary.ac.uk/*, *.gpc.cymru.* a *.gpc.wales/*).

Er i’r Ganolfan gymryd pob gofal rhesymol wrth ddarparu deunydd ar ffurf electronig, ni all y Ganolfan fod yn gyfrifol am gamgymeriadau, ansawdd na chywirdeb gwybodaeth a deunydd arall a ddarperir ar wefan(nau) ac apiau GPC.
Mae’r Ganolfan yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i wefan(nau) ac apiau GPC yn ddirybudd.

Nid yw deunydd sydd ar gael ar wefan(nau) ac apiau GPC sail i unrhyw gontract gyda’r sawl sy’n ei ddarllen a’i ddefnyddio. Ni fydd y Ganolfan yn atebol ar unrhyw achlysur am golled neu ddifrod i unrhyw unigolyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sy’n defnyddio neu’n dibynnu ar unrhyw ddeunydd a ddarperir ar wefan(nau) ac apiau GPC.

Nid yw’r Ganolfan gyfrifol am gynnwys, cyflwyniad a dolenni unrhyw safleoedd Rhyngrwyd allanol y cysyllto â nhw gan gynnwys tudalennau allanol sydd yn cysylltu â gwefan(nau) ac apiau GPC, neu’r rhai a grëwyd gan unrhyw sefydliad arall cysylltiedig â GPC neu nad yw’n gysylltiedig â GPC.

Ni all y Ganolfan warantu y bydd y dolenni hyn ar gael bob amser.

Datganiad Hawlfraint

Oni nodir fel arall mae hawlfraint yr holl ddeunydd a gyhoeddir ar wefan(nau) ac apiau Geiriadur Prifysgol Cymru yn eiddo i Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Cedwir pob hawl.


Cliciwch yma i ddarllen polisi preifatrwydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Y Ganolfan).

Yn ôl i’r brig