Cyfrannu i’r Geiriadur

English

Mae cost golygu’r Geiriadur a’i ddiweddaru i’r safonau academaidd uchaf a darparu mynediad am ddim iddo yn sylweddol iawn ac rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.

Yn wyneb ansicrwydd a thoriadau, mae’r cyrff sy’n ein hariannu yn ein hannog i geisio denu cefnogaeth o ffynonellau eraill a byddem yn ddiolchgar am unrhyw gymorth ychwanegol.

Os yw’r Geiriadur yn ddefnyddiol i chi byddem yn diolchgar pe baech yn ystyried gwneud cyfraniad gwirfoddol i helpu sicrhau ei barhad i’r dyfodol.

Cyfraniad sydyn
Gallwch roi arian mewn ychydig o eiliadau’n unig drwy glicio yma, ond os ydych yn talu trethi yn y DG gallwch gynyddu’ch cyfraniad o 25% – heb gost ychwanegol i chi’ch hun – drwy lenwi’r ffurflen isod. (Os ydych wedi darparu’ch manylion o’r blaen, nid oes angen gwneud eto: cliciwch yma.)

Logo Rhodd CymorthCyfraniad Rhodd Cymorth
Bydd cwblhau’r manylion isod yn ein galluogi i hawlio’n ôl y dreth incwm rydych wedi’i thalu eisoes ar eich cyfraniad. Ni ddatgelir unrhyw wybodaeth i drydydd parti (gw. ein Polisi Preifatrwydd).

Mae modd talu drwy PayPal gyda cherdyn debyd neu gredyd, neu â siec.

Mae eitemau â * yn hanfodol.

Request your Private Link


Diolch o’r galon am eich cyfraniad.
Os hoffech ddysgu mwy am ‘Gyfeillion y Geiriadur’ cliciwch isod
Ymunwch â'r Cyfeillion

Yn ôl i’r brig