Mae GPC Ar Lein wedi’i newid yn ddiweddar. Mae’r fersiwn gwe newydd yn gweithio’n well ar bob math o ddyfeisiau, ac yn ymaddasu i faint y sgrin. Mae hefyd yn gadael i chi chwilio drwy lawer mwy o gynnwys y Geiriadur.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ac atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml gan ddefnyddwyr GPC Ar Lein.
Am gymorth ychwanegol, cysylltwch â gpc@geiriadur.ac.uk
Cymorth
Defnyddio’r Geiriadur
- Y rhyngwyneb a newid iaith
- Chwilio am air Cymraeg
- Chwilio am ymadrodd Cymraeg
- Symud o gofnod i gofnod
- Chwilio am air neu ymadrodd Saesneg
- Chwiliadau manwl
- Cenedl, sillafiad, ffurfiau lluosog, ayb.
- Dyddiadau cyhoeddi
- Cydnawsedd
- Gwefan GPC
- Hawlfraint
- Sut i ddyfynnu cofnod
- Argraffu, rhannu ac adborth
- Trafferthion technegol?
- Angen rhagor o gymorth?
- Diolchiadau
Y rhyngwyneb a newid iaith

Gallwch newid iaith y rhyngwyneb unrhyw bryd drwy glicio ar y botwm ar y dde ar frig y dudalen. Ni fydd hyn yn amharu o gwbl ar y chwiliad. Testun Cymraeg yw GPC, felly ni fydd testun Cymraeg y cofnod yn newid, dim ond y rhyngwyneb.
Gallwch hofran dros fyrfoddau neu dapio arnynt ar sgrin gyffwrdd (‘touchscreen’) i gael esboniad ohonynt yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r botymau rheoli ar frig y dudalen, ac islaw, y canlyniadau chwilio ar y chwith, a’r cofnod cyntaf o’r canlyniadau yng nghorff y dudalen. Gellir clicio ar unrhyw un o’r canlyniadau ar y chwith er mwyn dangos y cofnod perthnasol.

Symudwch y llygoden dros elfennau o’r sgrin ac oedi ychydig i weld esboniadau ar y gwahanol fotymau, y blwch chwilio, ac yn y blaen. Symudwch y llygoden dros fyrfoddau unrhyw le mewn cofnod i weld y gair llawn neu esboniad. Mae dolen ar frig y dudalen i restrau o’r byrfoddau ar y wefan.

Dangosir y gair ac unrhyw ffurfiau eraill arno ar frig y cofnod. (Mae llinell fertigol lwyd rhwng ‘n’ ac ‘g’ a rhwng ‘r’ a ‘h’ yn dangos eu bod yn cael eu hynganu ar wahân, nid fel ‘ng’ a ‘rh’.) Nodir tarddiad neu forffoleg y gair rhwng ‘[…]‘, sy’n dangos sut mae wedi dod i’r iaith, neu o ba elfennau eraill mae wedi ei gyfansoddi, ynghyd â’i ran ymadrodd, ffurfiau lluosog, ffurfiau bachigol, ayb. Ceir un neu ragor o adrannau yn dangos gwahanol ystyron y gair yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer dyfynnir nifer o enghreifftiau o’r gair o destunau o wahanol gyfnodau wedi’u trefnu’n gronolegol.

Yn y dyfyniadau (yr enghreifftiau dyddiedig), gallwch symud y llygoden dros fyrfodd teitl y gwaith i weld y manylion llawn. Mae dolen ar frig y dudalen i’r llyfryddiaeth ar y wefan.

Mae modd cuddio’r dyfyniadau fesul bloc drwy glicio ar y botwm
ar y dde,

a’u dangos eto drwy glicio ar y botwm
.


Mae’r botymau
a
ar frig y dudalen yn cuddio neu ddangos yr holl ddyfyniadau yn y cofnod, sy’n ddefnyddiol i weld braslun o gofnod hir, neu restr o’r cyfuniadau neu ymadroddion.
Gallwch ddefnyddio botymau ‘yn ôl’ ac ‘ymlaen’ y porwr (Chrome, Firefox, Edge, Safari, ayb.) i fynd â chi drwy eich chwiliadau blaenorol.

Gallwch glicio ar unrhyw ddolen a nodir mewn glas yn y canlyniadau ac yn y cofnod i fynd i’r cofnod cyfatebol (neu le penodol ynddo). Nid yw pob un o’r rhain yn gweithio gan nad yw’r Geiriadur byth yn orffenedig, ac nid yw pob cofnod y cyfeirir ato wedi cael ei olygu eto. Mae llawer o ddolenni a ddilynir gan ‘(At.)’, ‘(hefyd At.)’, ac ‘(GPC3)’ yn y categori hwn.
Dangosir y testun cyfatebol gyda chefndir melyn neu smotyn coch o flaen y gyfatebiaeth ac mae’r cofnod yn sgrolio i lawr i ddangos y gyfatebiaeth gyntaf.
Chwilio am air Cymraeg

Os yw’r sgrin yn ddigon llydan, bydd blwch chwilio i’w weld ar y chwith.

Ar sgrinau llai, os na fydd y blwch chwilio yn y golwg, cliciwch ar eicon y chwyddwydr i’w ddangos.
I chwilio am gofnod yn y Geiriadur, dewiswch y tab CYMRAEG (os nad yw wedi’i ddewis eisoes), teipiwch y gair yn y blwch chwilio uchod, a phwyso’r allwedd ENTER.
Mae acenion, priflythrennau, atalnodau, a rhifau yn cael eu hanwybyddu. Bydd pob cofnod sy’n trafod y gair a deipiwyd yn ymddangos yn y canlyniadau ar ochr chwith y sgrin (e.e. bydd teipio man yn rhoi man1, man2, man3, man4, mân1, a mân2).

Mae chwiliadau’n cynnwys amrywiadau posibl all godi o’r treigladau, a nodir â’r symbol ↺, e.e. mae chwilio am bad hefyd yn rhoi fad, mad a pad ac mae chwilio am o hefyd yn rhoi go a ho. Os nad ydych am chwilio am y rhain, mae modd i chi ddiffodd hyn drwy glicio ar yr eicon
ar ochr dde’r blwch chwilio a fydd yn ymddangos a bar coch drwyddo.

Wrth i chi deipio, bydd rhestr o eiriau neu gyfuniadau sy’n dechrau gyda’r llythrennau hynny yn ymddangos o dan y blwch. Gallwch glicio ar un o’r rhain, neu symud y cyrchwr (‘cursor’) i lawr i’w ddewis.
Gallwch roi * yn lle rhan o air: e.e. bydd cat* yn dod o hyd i gofnodion sy’n dechrau gyda cat (gan gynnwys cat, catacwm, cath, cathaidd, ayb.).
Defnyddiwch ? i gymryd lle unrhyw un llythyren: e.e. bydd ?ath yn dod o hyd i bath, cath, math, ayb. Mae’n bosibl cyfuno’r rhain: e.e. byddai ?e??i?d* yn dod o hyd i geiriadur, ayb. – defnyddiol iawn i wneud croeseiriau!

Bydd y chwiliad yn dangos faint o weithiau mae term yn digwydd a bydd y canlyniadau yn ymddangos ar y chwith. Cliciwch ar unrhyw un o’r rhain. Gallwch sgrolio drwy’r rhestr.

Gall y canlyniadau gyfeirio at gofnodion, croesgyfeiriadau, neu gyfuniadau.

Gallwch lawrlwytho’r canlyniadau chwilio drwy bwyso ar y botwm lawrlwytho dan y blwch chwilio. Gallwch lawrlwytho hyd at 10,000 o’r canlyniadau chwilio trwy wasgu’r botwm lawrlwytho o dan y blwch chwilio. Bydd hyn yn cadw ffeil o’r enw matches.rtf i’ch ffolder lawrlwytho y gellir ei hagor gyda golygydd testun sy’n gydnaws â Word. Mae’r ffeil yn cynnwys crynodeb o’r chwiliad, nifer y cyfatebiaethau, ac yna un llinell ar gyfer pob canlyniad gydag URL y gellir ei glicio i bob un o’r cofnodion sy’n cyfateb.
Chwilio am ymadrodd Cymraeg
Gallwch chwilio am ymadrodd (neu ‘gyfuniad’) drwy ei deipio yn y blwch ar y chwith a phwyso’r allwedd ENTER, yn yr un modd ag wrth chwilio am air Cymraeg (gw. uchod).
Rhoddir ystyriaeth i drefn y geiriau ac i gromfachau mewn ymadrodd, e.e. bydd chwilio am pen ei thennyn yn dod o hyd i pen ei dennyn (ei thennyn, &c.).
Symud o gofnod i gofnod

Gallwch symud i’r cofnod blaenorol neu’r un nesaf drwy glicio ar y saethau trionglog o boptu’r dangosair.

![]()
Os yw ffenestr y porwr yn ddigon llydan, bydd panel yn ymddangos ar y dde yn rhestru’r geiriau cyfagos. Fel arall gellir ei agor drwy glicio ar yr eicon A–Z ar y dde ar frig y dudalen. Gellir clicio ar unrhyw un o’r geiriau hyn i weld y cofnod hwnnw.

Gallwch sgrolio drwy’r rhestr neu ddefnyddio’r saethau ar y brig i neidio gant neu fil o gofnodion yn bellach yn ôl neu ymlaen drwy’r Geiriadur, neu i’r dechrau neu i’r diwedd.
Chwilio am air neu ymadrodd Saesneg
Geiriadur Cymraeg hanesyddol yw GPC, yn trafod geiriau o bob cyfnod yn hanes yr iaith, gyda diffiniadau a chyfystyron yn Gymraeg a Saesneg. Nid geiriadur Saesneg–Cymraeg mohono. Er enghraifft, mae chwilio am horse yn dod o hyd i cafall, ceffyl, eddystr, gorwyddfarch, ayb., ond o’r rhain dim ond ceffyl sy’n cael ei ddefnyddio o hyd. Serch hynny, gallwch chwilio am air Saesneg i’ch atgoffa o’r gair Cymraeg, neu i weld yr holl enghreifftiau o’r gair yn y cyfystyron Saesneg. Gallwch, er enghraifft, chwilio am river, sy’n dod o hyd i’r cofnodion aber, afon, a nant.
I chwilio am air neu ymadrodd Saesneg, dewiswch y tab SAESNEG (os nad yw wedi’i ddewis eisoes), teipiwch y gair yn y blwch chwilio uchod, a phwyso’r allwedd ENTER.
Rhoddir ystyriaeth i drefn y geiriau, e.e. ni fydd bible dictionary yn canfod dictionary of the Bible.
Mae modd defnyddio’r symbolau ? (= un llythyren), * (= unrhyw lythyren/lythrennau neu ddim byd), a + (= o leiaf un llythyren), fel wrth chwilio am eiriau Cymraeg (gweler uchod).
Bydd y chwiliad Saesneg yn anwybyddu’r symbol ‘-‘ (cyplysnod/heiffen), ac yn chwilio hefyd am y ffurfiau lluosog cyffredin, felly bydd chwilio am ‘oak tree’ yn canfod enghreifftiau o ‘oak tree’, ‘oak-tree’, ‘oak trees’ ac ‘oak-trees’.
Chwiliadau manwl

Mae modd chwilio’n fanylach drwy holl gynnwys y Geiriadur. I wneud hyn, rhaid pwyso ar yr eicon
i’r dde o’r tabiau Cymraeg a Saesneg ar y brig ar y chwith. I chwilio dan y tab hwn bydd angen pwyso ar y botwm CHWILIO.
Gallwch ychwanegu term chwilio arall drwy bwyso ar y botwm YCHW. TERM.
Yn ogystal â chwilio’r dangoseiriau a’r cyfystyron Saesneg, mae modd cyfyngu’r chwiliad i un o’r rhain:
| Categori | Pwrpas |
|---|---|
| Dangosair | Chwilio am ddangosair neu amrywiad |
| Diffiniad Cymraeg | Chwilio am air neu eiriau yn y diffiniadau Cymraeg |
| Diffiniad Saesneg | Chwilio am air neu eiriau yn y diffiniadau Saesneg |
| Tarddiad | Chwilio am air, elfen, ayb., yn y tarddiadau |
| Sylwadau | Chwilio am air neu eiriau yn y sylwadau ar ddiwedd cofnodion (gan gynnwys defnydd llafar) |
| Gwybodaeth ramadegol | Chwilio am rannau ymadrodd, ffurfiau benywaidd, lluosog, bachigol, ayb., neu sylwadau gramadegol |
| Dyfyniadau | Chwilio am air neu eiriau o fewn dyfyniadau |
| Ffynhonnell dyfyniad | Chwilio am ddyfyniadau yn ôl byrfodd y ffynhonnell (Gw. y Llyfryddiaeth i ganfod yr union fyrfodd sydd ei angen arnoch ac i weld manylion llawn y ffynonellau) |
| Tacsonomeg | Chwilio am enw(au) Lladin rhywogaeth, ayb., organebau byw (mae llawer heb eu tagio eto) |
| Ffurfiau dangosair | Chwilio am sillafiadau neu ffurfiau ar ddangosair sy’n digwydd mewn dyfyniadau a sylwadau. (Defnyddiol pan fydd chwilio am ddangosair yn methu neu i ganfod ffurfiau prin, e.e. rhowch *esid i ganfod enghreifftiau o’r terfyniad berfol -esid.) |
| Pwnc | Chwilio am gofnodion yn ôl byrfodd pwnc neu faes penodol (e.e. Bot. neu Cem.). Ni nodir pwnc bob tro. (Gw. y Byrfoddau am restr) |

Os ychwanegwch un neu ragor o dermau chwilio eraill, gallwch ddefnyddio’r gweithredwyr rhesymegol ac, neu neu nid i gyfyngu’r chwiliad ymhellach. Gallwch glirio chwiliad blaenorol drwy glicio ar CLIRIO.

Gallwch gyfyngu’r chwiliad yn ôl dyddiad defnydd cyntaf y gair (e.e. i weld pob cofnod sy’n dechrau gyda dyfyniad o’r argraffiad llawn cyntaf o’r Beibl rhowch O 1588 Hyd at 1588).

Gallwch gyfyngu’r chwiliad yn ôl y rhannau ymadrodd a restrir:
- Enw
- Ansoddair
- Arddodiad
- Byrfodd
- Rhifolyn
- Rhagddodiad
- Terfyniad/Ôl-ddodiad
- Berf
- Adferf
- Rhagenw
- Cysylltair
- Geiryn
- Ebychiad
Mae’r dulliau chwilio hyn yn caniatáu chwilio’n fanwl iawn yn y Geiriadur, ond cofiwch fod y chwiliadau’n gallu cyfyngu’r canlyniadau posibl mewn ffordd wahanol i’r chwiliadau Cymraeg a Saesneg arferol.
Os hoffech gael cymorth pellach gyda’r chwiliadau hyn, cysyllwch â ni.
Cenedl, sillafiad, ffurfiau lluosog, ayb.
Mae GPC yn ceisio dilyn orgraff safonol y Gymraeg wrth sillafu’r dangoseiriau a’r ffurfiau lluosog, yr amrywiadau, a’r cyfuniadau. Y gair sy’n dod gyntaf fel rheol yw’r un mwyaf arferol heddiw. Mae hyn yn wir hefyd am y ffurfiau lluosog a restrir. Yn achos berfau, rhoddir y berfenw mwyaf safonol yn syth ar ôl y colon.
Yn achos enwau, y genedl a roddir gyntaf yw’r un fwyaf arferol yn yr iaith lenyddol, ond cofiwch fod cenedl geiriau yn gallu amrywio o ardal i ardal neu fod yn wahanol yn y gorffennol.
Mae sillafiad y dyfyniadau enghreifftiol yn dilyn y testun gwreiddiol. Dyfynnir testunau weithiau o olygiadau sydd wedi safoni’r orgraff: codir y rhain yn union fel y maent yn yr argraffiad.
Dyddiadau cyhoeddi

Nodir dyddiad golygu diweddaraf pob cofnod o dan y dangosair. Nodwch fod llawer o gofnodion wedi eu newid ryw ychydig, a nodir gyda’r symbol ‘+‘ ar ôl y dyddiad. Gall hyn gynnwys ailddyddio rhai dyfyniadau, ac weithiau ceir dyfyniadau ychwanegol. Ni newidir y dyddiad nes bydd y cofnod wedi’i ailolygu’n drylwyr.
Ymddangosodd argraffiad cyntaf GPC rhwng 1950 a 2002. Mae’r rhan fwyaf o’r adran A–B wedi’i hailolygu’n drylwyr, a cheir cofnodion yr ail argraffiad hwn yma. O C ymlaen bydd y Golygyddion yn ychwanegu cofnodion newydd sbon ac yn ailolygu detholiad o’r hen gofnodion. Y bwriad yw ailolygu’r holl eiriadur yn drylwyr, ond mae honno’n dasg enfawr. Ychwanegir y gwaith diweddaraf yn rheolaidd i GPC Ar lein.

Fel y gellir cymharu’r Geiriadur â’r fersiwn print, mae modd gweld lluniau o dudalennau’r argraffiad cyntaf drwy glicio ar
. Bydd hyn yn dangos llun o’r dudalen sy’n cyfateb i’r cofnod a ddangosir. Nid yw pob cofnod yn yr argraffiad cyntaf.

Gallwch lusgo’r llun drwy ddal botwm chwith y llygoden i lawr ar y llun a’i lusgo i safle arall. Gallwch wneud y llun yn fwy neu’n llai drwy ddefnyddio olwyn sgrolio’r llygoden (os oes un), neu ddefnyddio pad cyffwrdd (‘touchpad’). Gellir printio’r llun neu’i gadw (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau arferol hawlfraint) drwy glicio ar yr eicon argraffu ar y chwith.
Mae’r botymau TUDALEN NESAF / TUDALEN FLAENOROL yn gadael i chi edrych ar y tudalennau cyfagos, gan y gall cofnod ymestyn dros sawl tudalen.

Mae’n bwysig cofio y gall y llun o’r dudalen fod dros 70 mlynedd yn hŷn na’r cofnod a ddangosir. Nodir dyddiad cyhoeddi tudalen yr argraffiad cyntaf ar waelod y bar teitl ar y dde.
Os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled, gweler yr adran nesaf.
Cydnawsedd
Mae’r GPC Ar Lein yn gweithio ar ei orau ar gyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau symudol Windows, Android, iOS a Linux gyda’r prif borwyr fel Chrome, Firefox, Edge, a Safari.
Ar ffonau a thabledi, gan nad oes llygoden fel arfer, nid oes modd cael help drwy ei symud dros rannau o’r sgrin. (Weithiau mae tapio eitemau yn gweithio.) Bydd rhaid defnyddio’ch bysedd i sgrolio’r sgrin. Gallwch symud y lluniau o dudalennau’r argraffiad cyntaf gyda’ch bysedd a phinsio i newid maint y llun.
Gwefan GPC

Drwy glicio ar logo GPC ar frig y dudalen gallwch ymweld â gwefan y Geiriadur, lle mae modd dysgu rhagor am y Geiriadur, cyfrannu sylwadau a chynnig gwelliannau a geiriau newydd. Ceir hefyd fanylion am ein cyhoeddiadau a sut i’w harchebu.
Hawlfraint
Er nad oes tâl am ddefnyddio GPC Ar Lein, eiddo deallusol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r holl ddata. Rhoddir hawl i unigolion ddefnyddio’r adnodd ar gyfer eu gwaith ymchwil a dysgu ac i ddyfynnu darnau o’r gwaith yn unol â’r deddfau hawlfraint sydd mewn grym ar hyn o bryd, ond rhaid cydnabod y ffynhonnell. Caniateir defnyddio’r adnodd mewn busnesau a sefydliadau, ond ni cheir ei atgynhyrchu at ddibenion masnachol heb ganiatâd.
Sut i ddyfynnu cofnod

Mae botwm ar y chwith ar frig y dudalen i hwyluso dyfynnu cofnod o’r Geiriadur yn gywir.
D.S. Oherwydd y ffordd y cafodd y deunydd ei drosi i ffurf ddigidol, dylid siecio’r cofnodion o brithlyfr i llyys yn erbyn yr argraffiad printiedig cyn eu dyfynnu drwy glicio ar
, a gwerthfawrogwn gael gwybod am unrhyw wallau y byddwch chi’n sylwi arnynt.
Dylid dyfynnu pob cofnod o GPC Ar Lein, yn ôl un o’r dulliau canlynol:
Harvard (DU):
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (2026) Marwdon. Yn: Geiriadur Prifysgol Cymru [ar lein]. Ar gael yn: https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189 (Cyrchwyd: 3 Tachwedd 2026).
APA 7th:
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. (2026). Marwdon. Yn: Geiriadur Prifysgol Cymru (ar lein). Cyrchwyd Tachwedd 3, 2026, o https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189.
MLA 9th:
“Marwdon.” Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2026, www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189. Cyrchwyd 3 Tch. 2026.
Chicago (troednodyn):
Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. “marwdon,” cyrchwyd Tachwedd 3, 2026, https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189.
Chicago (llyfryddiaeth):
Geiriadur Prifysgol Cymru. D.g. “marwdon.” Cyrchwyd Tachwedd 3, 2026, https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189.
MHRA:
Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. ‘marwdon’ https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc078189 [cyrchwyd 3 Tachwedd 2026].
Gellir cael URL parhaol i gofnod penodol drwy ddewis ‘URL y cofnod’ yn yr opsiynau dyfynnu.
Argraffu, rhannu ac adborth

Gallwch ddefnyddio’r botymau ar y brig i argraffu cofnod neu ei rannu ar amrywiol gyfryngau cymdeithasol. Mae botwm hefyd i anfon adborth atom drwy e-bost, naill ai am air penodol neu am y Geiriadur Ar Lein ei hun.
Trafferthion technegol?
Os cewch drafferth gydag GPC Ar Lein, weithiau gall fod problem gyda’r porwr (Chrome, Firefox, Edge, Safari, ayb.). Mae ei ail-lwytho drwy bwyso CTRL+SHIFT+R (CMD+SHIFT+R ar MacOS) neu CTRL+F5 yn aml yn gallu datrys problemau drwy glirio’r storfa dros dro.
Ar ddyfeisiau symudol gellir cau ac ailgychwyn yr ap drwy ei lusgo oddi ar y sgrin o’r ystod o apiau sy’n rhedeg.
Angen rhagor o gymorth?
Os oes cwestiwn gennych o hyd, croeso i chi anfon neges e-bost at:
gpc@geiriadur.ac.uk
Diolchiadau
Troswyd y data i XML a datblygwyd y feddalwedd gan iLEX Digital Publishing, København, Denmarc.
Cyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
