Beth yw GPC?

Am y Geiriadur

Beth yw GPC?

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol sy’n debyg o ran cynllun a statws i’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith o’r testunau cynharaf yn yr 8fed a’r 9fed ganrif hyd at y presennol. Paratowyd y Geiriadur gan dîm o ymchwilwyr dros gyfnod o 90 o flynyddoedd. Ychwanegir ato’n gyson a diwygir y cofnodion hŷn. Mae dyddiad cyhoeddi’r cofnodion yn amrywio o 1950 hyd at eleni, a nodir y dyddiad cyhoeddi ar ôl y dangosair.

Diffinnir yr eirfa yn Gymraeg, gyda chyfystyron Saesneg. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Gyda’r ap hwn, gellir chwilio’r dangoseiriau, yr amrywiadau, y cyfuniadau, a’r croesgyfeiriadau. Hefyd, drwy ddewis chwilio geiriau Saesneg, gellir chwilio’r cyfystyron Saesneg.

Mae modd chwilio am ran o air yn unig (e.e. bydd chwilio am ‘+gi’ yn darganfod pob cofnod sy’n gorffen yn ‘…gi’, fel bolgi a celwyddgi). Hefyd gellir chwilio am fwy nag un gair (e.e. bydd chwilio am ‘byth a’ yn darganfod byth a beunydd, byth a hefyd, a beunydd a byth).

Pa mor fawr yw GPC?

Mae GPC yn eiriadur mawr, sy’n cynnwys:

  • 91,234 o gofnodion
  • 129,918 o ddangoseiriau
  • 92,930 o adrannau etymolegol
  • 137,971 o ddiffiniadau Cymraeg
  • 7,370 o amrywiadau
  • 35,164 o gyfuniadau
  • 424,295 o ddyfyniadau enghreifftiol
  • 6,014 o ffynonellau llyfryddol gwahanol
  • dros 9 miliwn o eiriau yn gyfan gwbl

Pryd ysgrifennwyd GPC?

Nodir dyddiad cyhoeddi gwreiddiol pob cofnod i’r dde o’r dangosair rhwng cromfachau.

Ymddangosodd argraffiad cyntaf GPC rhwng 1950 a 2002 ac mae’r ail argraffiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r adran A–B wedi’i hailolygu’n drylwyr, a cheir cofnodion yr ail argraffiad hwn yma. O C ymlaen mae’r Golygyddion yn ychwanegu cofnodion newydd sbon ac yn ailolygu detholiad o’r hen gofnodion. Ychwanegir y gwaith diweddaraf yn rheolaidd at GPC Ar Lein a’r ap.

P’un yw’r sillafiad/cenedl/ffurf safonol?

Mae GPC yn ceisio dilyn orgraff safonol y Gymraeg wrth sillafu’r dangoseiriau a’r ffurfiau lluosog, yr amrywiadau, a’r cyfuniadau. Y gair sy’n dod gyntaf yw’r un mwyaf arferol heddiw. Mae hyn yn wir hefyd am y genedl a’r ffurfiau lluosog a restrir. Yn achos berfau, rhoddir y berfenw mwyaf safonol yn syth ar ôl y colon.

Yn achos enwau, y genedl a roddir gyntaf yw’r un fwyaf arferol yn yr iaith lenyddol, ond cofiwch fod cenedl geiriau yn gallu amrywio o ardal i ardal.

Mae sillafiad y dyfyniadau enghreifftiol yn dilyn y testun gwreiddiol. Dyfynnir testunau weithiau o olygiadau sydd wedi safoni’r orgraff: codir y rhain yn union fel y maent yn yr argraffiad.

Sut mae cael rhagor o help?

Os bydd angen help ychwanegol arnoch, os ydych yn cael trafferth i ddefnyddio’r Geiriadur neu os hoffech ofyn cwestiwn am air arbennig, gallwch gysylltu â ni drwy: