Telerau ac amodau
Yn weithredol o: 18 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2026
Gan ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau canlynol.
1. Ynghylch y Telerau hyn
Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn gymwys i wefannau, ap gwe blaengar ac apiau symudol Geiriadur Prifysgol Cymru (“GPC”), y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel “Gwasanaethau GPC”. Maent yn cynnwys:
- gwefannau sy’n defnyddio’r parthau welsh-dictionary.ac.uk, geiriadur.ac.uk, gpc.wales a gpc.cymru;
- yr ap GPC a ddosberthir drwy Google Play; a
- yr ap GPC a ddosberthir drwy App Store Apple.
Darperir Gwasanaethau GPC gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, drwy’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (“y Ganolfan”).
Cyfeiriad a manylion cyswllt y Brifysgol yw:
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ffordd y Coleg
Campws Caerfyrddin
Caerfyrddin
SA31 3EP
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)300 500 5054 neu +44 (0)1267 676767
Rhif elusen gofrestredig: 1149535
Mae’r Telerau hyn yn nodi’r amodau y caniateir defnyddio Gwasanaethau GPC oddi tanynt. Drwy gyrchu neu ddefnyddio unrhyw un o Wasanaethau GPC, rydych yn cytuno i’w ddefnyddio yn unol â’r Telerau hyn.
2. Gwasanaethau GPC
Mae Gwasanaethau GPC yn darparu mynediad am ddim i Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol yr iaith Gymraeg, ac i ddeunydd ieithyddol a golygyddol cysylltiedig.
Ni chodir tâl am ddefnyddio Gwasanaethau GPC. Nid ydynt yn cynnwys tanysgrifiadau, pryniannau o fewn yr ap, nodweddion y codir tâl amdanynt, na hysbysebion masnachol.
Fel arfer, mae angen cysylltiad â’r rhyngrwyd er mwyn cyrchu cofnodion geiriadurol a chynnwys arall. Mae’n bosibl y bydd rhannau o’r rhyngwyneb neu wybodaeth a gyrchwyd yn ddiweddar yn cael eu storio dros dro ar ddyfais y defnyddiwr er mwyn galluogi’r gwasanaeth i weithredu neu er mwyn gwella ei berfformiad.
3. Defnydd a ganiateir
Caniateir i unigolion ddefnyddio Gwasanaethau GPC at ddibenion personol, addysgol, addysgu ac ymchwil. Caniateir hefyd i fusnesau, sefydliadau, a defnyddwyr proffesiynol ymgynghori â’r adnodd.
Caniateir dyfynnu darnau rhesymol o gofnodion geiriadurol lle y caniateir hynny gan gyfraith hawlfraint, ar yr amod bod GPC yn cael ei gydnabod yn briodol fel y ffynhonnell.
Caniateir i beiriannau chwilio arferol fynegeio Gwasanaethau GPC. At y diben hwn, mae GPC yn darparu tudalennau sydd ar gael yn gyhoeddus ac URLs sefydlog ar gyfer cofnodion unigol yn y geiriadur.
Mae angen cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i echdynnu, cynaeafu, crafu, lawrlwytho neu atgynhyrchu data GPC mewn modd cynhwysfawr neu systematig, ac eithrio lle y caniateir y gweithgaredd yn benodol gan y gyfraith.
Oni bai bod caniatâd ysgrifenedig penodol wedi’i roi neu fod y gyfraith yn caniatáu hynny, rhaid i ddefnyddwyr beidio â:
- atgynhyrchu neu ailddosbarthu rhan sylweddol o’r geiriadur neu’r data sy’n sail iddo;
- atgynhyrchu deunydd GPC at ddibenion masnachol;
- defnyddio meddalwedd awtomataidd i echdynnu neu lawrlwytho deunydd GPC mewn modd cynhwysfawr neu systematig;
- cyflwyno ceisiadau ar gyfradd neu ar raddfa sy’n amharu ar weithrediad Gwasanaethau GPC;
- ceisio osgoi mesurau a fwriedir i ddiogelu Gwasanaethau GPC neu’r seilwaith sy’n eu cynnal;
- ymyrryd â gweithrediad neu ddiogelwch Gwasanaethau GPC; neu
- ddefnyddio Gwasanaethau GPC at ddiben anghyfreithlon.
Dylid anfon ceisiadau am ganiatâd at gpc@geiriadur.ac.uk.
4. Hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill
Mae data a chynnwys golygyddol y geiriadur yn eiddo deallusol i Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Oni nodir fel arall:
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n berchen ar yr hawlfraint yng ngwefan GPC a’i chynnwys gwefan gwreiddiol;
- iLex Digital Publishing ApS, Copenhagen, Denmarc, sy’n berchen ar yr hawlfraint ym meddalwedd y geiriadur ar lein a meddalwedd yr apiau symudol;
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n berchen ar yr hawliau cronfa ddata yn nata GPC; a
- Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n berchen ar yr hawliau yn enw a logo GPC.
Cedwir pob un o’r hawliau hynny, ac eithrio lle y darperir deunydd o dan drwydded benodol neu lle y caniateir ei ddefnyddio fel arall gan y gyfraith.
Gall dyfyniadau unigol, darluniau a deunydd arall a gyfrannwyd fod yn ddarostyngedig i hawliau ar wahân. Mae unrhyw gydnabyddiaethau neu gyfyngiadau a ddangosir gyda deunydd o’r fath hefyd yn gymwys.
Ni chaniateir defnyddio enw na logo GPC mewn ffordd sy’n awgrymu cymeradwyaeth, cefnogaeth neu gysylltiad heb ganiatâd ymlaen llaw.
Nid yw defnyddio Gwasanaethau GPC yn trosglwyddo i’r defnyddiwr berchnogaeth ar unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata, nod masnach nac unrhyw hawl eiddo deallusol arall.
5. Natur a chywirdeb y geiriadur
Geiriadur hanesyddol ysgolheigaidd yw GPC. Ei ddiben yw cofnodi ac esbonio geirfa’r Gymraeg dros wahanol gyfnodau. O ganlyniad, gall ei gofnodion gynnwys geiriau ac ystyron darfodedig, hynafol, tafodieithol, technegol, prin, neu gyfyngedig mewn ffyrdd eraill.
Gall dyfyniadau a diffiniadau hanesyddol gynnwys iaith neu fynegi agweddau na fyddent yn cael eu hystyried yn briodol heddiw. Cynhwysir y rhain er mwyn cofnodi defnydd hanesyddol, ac nid yw hynny’n golygu bod GPC, y Ganolfan na’r Brifysgol yn eu cymeradwyo.
Mae’r golygyddion yn cymryd gofal rhesymol wrth baratoi a chynnal y geiriadur. Serch hynny, oherwydd natur, oedran, a maint y deunydd, ni all y Brifysgol warantu bod pob cofnod yn gyflawn, yn gyfredol nac yn rhydd rhag gwallau. Dangosir y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol ar bob cofnod, a dylid nodi y gall fod rhai cofnodion heb eu golygu ers hyd at ddeg a thrigain o flynyddoedd.
Dylai cyfieithwyr proffesiynol a defnyddwyr proffesiynol eraill arfer eu crebwyll priodol ac ystyried labeli defnydd, dyddiadau, tystiolaeth gyd-destunol, a ffynonellau perthnasol eraill cyn defnyddio gair neu ystyr mewn gwaith cyfoes. Y defnyddwyr sy’n gyfrifol am benderfynu a yw gwybodaeth benodol yn y geiriadur yn addas at y diben a fwriedir ganddynt.
Darperir GPC at ddibenion ieithyddol, addysgol, ysgolheigaidd, ac er gwybodaeth gyffredinol. Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol, meddygol nac unrhyw gyngor proffesiynol arbenigol arall.
Gellir rhoi gwybod am wallau posibl a chynnig cywiriadau, sylwadau, neu ymholiadau drwy anfon neges at gpc@geiriadur.ac.uk.
6. Argaeledd a newidiadau
Nod y Brifysgol yw cadw Gwasanaethau GPC ar gael ac yn gweithredu’n ddibynadwy, ond ni ellir gwarantu mynediad di-dor na gweithrediad sy’n rhydd rhag gwallau.
Mae’n bosibl y bydd mynediad yn cael ei dorri o bryd i’w gilydd oherwydd gwaith cynnal a chadw, gwaith diogelwch, problemau technegol, neu amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol.
Caiff y Brifysgol gywiro, ehangu, diweddaru, ad-drefnu neu ddileu deunydd geiriadurol. Caiff hefyd newid cynllun, swyddogaethau neu ddull technegol darparu Gwasanaethau GPC heb roi rhybudd ymlaen llaw.
Lle y bo’n ymarferol, rhoddir rhybudd rhesymol cyn rhoi’r gorau’n barhaol i un o Wasanaethau arwyddocaol GPC.
7. Dolenni a llwyfannau allanol
Gall Gwasanaethau GPC gynnwys dolenni i wefannau neu wasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill. Nid yw’r Brifysgol yn rheoli’r gwasanaethau allanol hynny ac nid yw’n gyfrifol am eu cynnwys, eu hargaeledd, eu diogelwch, na’u harferion preifatrwydd.
Nid yw cynnwys dolen o reidrwydd yn golygu bod y Brifysgol yn cymeradwyo’r wefan allanol, ei gweithredwr, na’i chynnwys. Ni all y Brifysgol warantu y bydd dolenni allanol yn parhau i fod ar gael.
Mae defnyddio Google Play, App Store Apple a llwyfannau trydydd parti eraill hefyd yn ddarostyngedig i delerau a pholisïau eu gweithredwyr perthnasol.
8. Preifatrwydd
Nid yw Gwasanaethau GPC yn defnyddio cwcis ar hyn o bryd.
Mae GPC yn defnyddio Google Analytics ac yn dadansoddi cofnodion o geisiadau a chwiliadau yn y geiriadur. Ceir gwybodaeth am y prosesu hwn, gan gynnwys yr wybodaeth a gesglir, dibenion ei chasglu, y cyfnodau cadw, a hawliau defnyddwyr, yn Hysbysiad Preifatrwydd GPC: https://www.geiriadur.ac.uk/preifatrwydd/
Caiff defnyddwyr gysylltu ag GPC drwy e-bost i gyflwyno adborth, gofyn am gymorth, neu roi gwybod am broblem. Ymdrinnir ag unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir mewn gohebiaeth o’r fath yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd GPC.
9. Cyfrifoldeb ac atebolrwydd
Nid oes dim yn y Telerau hyn sy’n eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd lle byddai gwneud hynny’n anghyfreithlon. Nid oes dim yn y Telerau hyn sy’n effeithio ar unrhyw hawliau statudol a all fod gan ddefnyddwyr o dan gyfraith diogelu defnyddwyr.
Mae’r Brifysgol yn gyfrifol am golled neu ddifrod sy’n ganlyniad y gellid yn rhesymol fod wedi’i rag-weld i achos o dorri’r Telerau hyn neu i fethiant y Brifysgol i arfer gofal a medr rhesymol. Nid yw’n gyfrifol am golled neu ddifrod nad oedd modd rhesymol ei rag-weld.
Nid yw’r Brifysgol yn gwarantu bod deunydd y geiriadur yn addas ar gyfer unrhyw gyfieithiad, cyhoeddiad, gweithgaredd masnachol, neu ddiben proffesiynol penodol arall. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am y geiriau, yr ystyron, a’r wybodaeth arall a ddewisant o GPC, ac am y ffordd y defnyddiant y rheini.
Pan ddefnyddir un o Wasanaethau GPC wrth gynnal busnes, masnach neu broffesiwn, ni fydd y Brifysgol, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, yn atebol am:
- golli elw, refeniw, busnes, neu arbedion disgwyliedig;
- colli cyfle busnes, ewyllys da, neu enw da;
- colli neu lygru data; neu
- golled anuniongyrchol neu ganlyniadol.
Nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol am broblemau neu golledion a achosir gan:
- ddyfais, meddalwedd, neu gysylltiad rhyngrwyd y defnyddiwr;
- Google Play, App Store Apple, neu unrhyw lwyfan neu wasanaeth trydydd parti arall;
- newid neu gamddefnyddio Gwasanaethau GPC heb awdurdod;
- methiant i ystyried labeli defnydd, dyddiadau, neu wybodaeth gyd-destunol a ddarperir mewn cofnod geiriadurol; neu
- amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol.
10. Cyfyngu ar fynediad
Caiff y Brifysgol gymryd mesurau cymesur i gyfyngu ar fynediad lle mae’n credu’n rhesymol fod unigolyn neu system awtomataidd:
- yn niweidio neu’n amharu ar y gwasanaeth neu ei ddefnyddwyr;
- yn cyflwyno ceisiadau gormodol neu aflonyddgar;
- yn ceisio echdynnu deunydd yn gynhwysfawr heb awdurdod;
- yn peryglu diogelwch; neu
- yn defnyddio’r gwasanaeth yn anghyfreithlon.
11. Newidiadau i’r Telerau hyn
Caiff y Brifysgol ddiwygio’r Telerau hyn pan fydd Gwasanaethau GPC, y gyfraith gymwys, neu arferion y Brifysgol yn newid.
Dangosir dyddiad y diwygiad diweddaraf ar ddechrau’r dudalen hon. Os bydd newid yn effeithio’n sylweddol ar hawliau defnyddwyr neu ar y defnydd a ganiateir, bydd y Brifysgol yn cymryd camau rhesymol i dynnu sylw ato.
Bydd unrhyw ddefnydd parhaus o un o Wasanaethau GPC ar ôl i Delerau diwygiedig ddod i rym yn ddarostyngedig i’r Telerau diwygiedig hynny.
12. Y gyfraith lywodraethol a’r iaith
Llywodraethir y Telerau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr.
Os defnyddiwch Wasanaethau GPC fel defnyddiwr, byddwch yn cadw unrhyw amddiffyniadau cyfreithiol gorfodol sydd ar gael ichi yn y wlad lle rydych yn byw. Nid oes dim yn y Telerau hyn sy’n eich atal rhag arfer hawliau na ellir eu cyfyngu’n gyfreithlon.
Mae’r Telerau hyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bwriedir i’r ddwy fersiwn fod â’r un ystyr. Os bydd unrhyw anghysondeb rhyngddynt, y fersiwn Gymraeg fydd drechaf, yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion gorfodol o dan gyfraith diogelu defnyddwyr gymwys.
13. Cysylltu â ni
Dylid anfon pob ymholiad, adborth, cais am ganiatâd, a chais am gymorth technegol at:
Y Gwefeistr
Geiriadur Prifysgol Cymru
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY23 3HH
Y Deyrnas Unedig
E-bost: gpc@geiriadur.ac.uk
