2026

28 Medi 2026

Rhybuddion coch am XSLT

Rydym yn ymwybodol y gellid gweld rhybuddion coch bod XSLT yn dod i ben yn Chrome, Edge, Firefox ayb, ac yn gweithio i newid y dechnoleg mae GPC yn ei defnyddio. Nid oes rhaid poeni am hyn yn y cyfamser. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra dros dro.

28 Medi 2026

Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru

Dydd Gwener, 16 Hydref 2026 am 11 o’r gloch

Estynnir croeso cynnes i chi ymuno â ni yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion GPC yng nghwmni Yr Athro Mererid Hopwood, Llywydd y Cyfeillion, Berwyn Prys Jones, ac Einion Gruffudd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Poster Cyfarfod Blynyddol y Cyfeillion (testun ar y tudalen)

6 Ionawr 2026

Ap GPC ar hen fersiynau o Android wedi’i drwsio

Mae’r broblem a rwystrodd yr ap rhag rhedeg ar rai hen fersiynau o Android wedi’i datrys. Nid oes angen ailsefydlu’r ap – dylai weithio fel y mae. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.


Eitemau Hŷn